23. Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a'th fynych wendid.
24. Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o'r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.
25. Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o'r blaen; a'r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.