1 Timotheus 4:13-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu.

14. Nac esgeulusa'r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo'r henuriaeth.

15. Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.

16. Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a'th gedwi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat.

1 Timotheus 4