1 Timotheus 2:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn;

2. Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd.

3. Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad;

4. Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a'u dyfod i wybodaeth y gwirionedd.

1 Timotheus 2