1 Thesaloniaid 4:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy.

2. Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy'r Arglwydd Iesu.

3. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb:

1 Thesaloniaid 4