1 Thesaloniaid 3:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
1. Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen;
2. Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a'n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch diddanu ynghylch eich ffydd;