1 Thesaloniaid 2:2-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech.

3. Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll:

4. Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.

5. Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:

6. Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist.

7. Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant.

8. Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu รข chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.

9. Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw.

1 Thesaloniaid 2