21. A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? a'm teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn?
22. A Samuel a gymerth Saul a'i lanc, ac a'u dug hwynt i'r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain.
23. A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi.
24. A'r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a'r hyn oedd arni, ac a'i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.