1 Samuel 9:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr oedd gŵr o Benjamin, a'i enw Cis, mab Abiel, mab Seror, mab Bechorath, mab Affeia, mab i ŵr o Jemini, yn gadarn o nerth.

2. Ac iddo ef yr oedd mab, a'i enw Saul, yn ŵr ieuanc, dewisol a glân: ac nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef: o'i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na'r holl bobl.

3. Ac asynnod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymer yn awr un o'r llanciau gyda thi, a chyfod, dos, cais yr asynnod.

4. Ac efe a aeth trwy fynydd Effraim, ac a dramwyodd trwy wlad Salisa, ac nis cawsant hwynt: yna y tramwyasant trwy wlad Salim, ac nis cawsant hwynt: ac efe a aeth trwy wlad Jemini, ond nis cawsant hwynt.

5. Pan ddaethant i wlad Suff, y dywedodd Saul wrth ei lanc oedd gydag ef, Tyred, a dychwelwn; rhag i'm tad beidio â'r asynnod, a gofalu amdanom ni.

6. Dywedodd yntau wrtho ef, Wele, yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i Dduw, a'r gŵr sydd anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi.

7. Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc, Wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i'r gŵr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes i'w ddwyn i ŵr Duw: beth sydd gennym?

8. A'r llanc a atebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, Wele, cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian: mi a roddaf hynny i ŵr Duw, er mynegi i ni ein ffordd.

9. (Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori â Duw; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Proffwyd heddiw, a elwid gynt yn Weledydd.)

1 Samuel 9