1 Samuel 8:12-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac a'u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

13. A'ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.

14. Ac efe a gymer eich meysydd, a'ch gwinllannoedd, a'ch olewlannoedd gorau, ac a'u dyry i'w weision.

15. Eich hadau hefyd a'ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a'u dyry i'w ystafellyddion ac i'w weision.

16. Eich gweision hefyd, a'ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a'ch asynnod, a gymer efe, ac a'u gesyd i'w waith.

17. Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef.

18. A'r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.

1 Samuel 8