10. A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo.
11. Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a'u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef:
12. Ac a'u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.
13. A'ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.
14. Ac efe a gymer eich meysydd, a'ch gwinllannoedd, a'ch olewlannoedd gorau, ac a'u dyry i'w weision.
15. Eich hadau hefyd a'ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a'u dyry i'w ystafellyddion ac i'w weision.
16. Eich gweision hefyd, a'ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a'ch asynnod, a gymer efe, ac a'u gesyd i'w waith.