1 Samuel 5:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.

5. Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.

6. A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid; ac efe a'u distrywiodd hwynt, ac a'u trawodd hwynt, sef Asdod a'i therfynau, â chlwyf y marchogion.

7. A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw.

8. Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi'r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno.

9. Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd.

1 Samuel 5