3. A phan ddaeth y bobl i'r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd, a deled i'n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.
4. Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw.
5. A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i'r gwersyll, holl Israel a floeddiasant รข bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear.
6. A phan glybu'r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i'r gwersyll.
7. A'r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i'r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu'r fath beth o flaen hyn.