1 Samuel 4:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled.

16. A'r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o'r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o'r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab?

17. A'r gennad a atebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl; a'th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd.

1 Samuel 4