10. A'r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i'w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed.
11. Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.
12. A gŵr o Benjamin a redodd o'r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, â'i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben.
13. A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i'r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd.
14. A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A'r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli.
15. Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled.
16. A'r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o'r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o'r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab?