1 Samuel 30:24-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyda'r dodrefn: hwy a gydrannant.

25. Ac o'r dydd hwnnw allan, efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.

26. A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o'r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i'w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr Arglwydd;

27. Sef i'r rhai oedd yn Bethel, ac i'r rhai oedd yn Ramoth tua'r deau, ac i'r rhai oedd yn Jattir,

28. Ac i'r rhai oedd yn Aroer, ac i'r rhai oedd yn Siffmoth, ac i'r rhai oedd yn Estemoa,

29. Ac i'r rhai oedd yn Rachal, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,

30. Ac i'r rhai oedd yn Horma, ac i'r rhai oedd yn Chorasan, ac i'r rhai oedd yn Athac,

31. Ac i'r rhai oedd yn Hebron, ac i'r holl leoedd y buasai Dafydd a'i wŷr yn cyniwair ynddynt.

1 Samuel 30