1 Samuel 30:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan ddaeth Dafydd a'i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a'i llosgasent hi â thân.

2. Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasent hwy ymaith, ac aethent i'w ffordd.

3. Felly y daeth Dafydd a'i wŷr i'r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a'u meibion, a'u merched, a gaethgludasid.

1 Samuel 30