1. A phan ddaeth Dafydd a'i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a'i llosgasent hi â thân.
2. Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasent hwy ymaith, ac aethent i'w ffordd.
3. Felly y daeth Dafydd a'i wŷr i'r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a'u meibion, a'u merched, a gaethgludasid.
4. Yna dyrchafodd Dafydd a'r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo.
5. Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad.
6. A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.
7. A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, Dwg i mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd.
8. A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon? a oddiweddaf fi hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Erlid: canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.
9. Felly Dafydd a aeth, efe a'r chwe channwr oedd gydag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Besor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl.
10. A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr; canys dau cannwr a arosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor.
11. A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes, ac a'i dygasant ef at Dafydd; ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd; a hwy a'i diodasant ef â dwfr.
12. A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys, a dau swp o resin: ac efe a fwytaodd, a'i ysbryd a ddychwelodd ato: canys ni fwytasai fara, ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos.