15. A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freuddwydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn.
16. Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn รข mi, gan i'r Arglwydd gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti?
17. Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o'th law di, ac a'i rhoddes hi i'th gymydog, i Dafydd:
18. Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn.
19. Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a'th feibion gyda mi: a'r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid.