5. A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o'r maestrefi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi?
6. Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn.
7. A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis.
8. A Dafydd a'i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a'r Gesriaid, a'r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Aifft.
9. A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a'r gwartheg, a'r asynnod, a'r camelod, a'r gwisgoedd, ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis.