7. Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos. Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei obennydd ef: ac Abner a'r bobl oedd yn gorwedd o'i amgylch ef.
8. Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd, Duw a roddes heddiw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef, atolwg, รข gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis aildrawaf ef.
9. A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fyddai ddieuog?
10. Dywedodd Dafydd hefyd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, naill ai yr Arglwydd a'i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i'r rhyfel, ac a ddifethir.
11. Yr Arglwydd a'm cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd: ond yn awr, cymer, atolwg, y waywffon sydd wrth ei obennydd ef, a'r llestr dwfr, ac awn ymaith.
12. A Dafydd a gymerth y waywffon, a'r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul; a hwy a aethant ymaith; ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro: canys yr oeddynt oll yn cysgu; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr Arglwydd a syrthiasai arnynt hwy.
13. Yna Dafydd a aeth i'r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell; ac encyd fawr rhyngddynt;