1 Samuel 25:41-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd.

42. Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o'i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.

43. A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef.

44. A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalti mab Lais, o Alim.

1 Samuel 25