1 Samuel 25:38-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw.

39. A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo.

40. A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a'n hanfonodd ni atat ti, i'th gymryd di yn wraig iddo.

41. A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd.

42. Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o'i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.

43. A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef.

44. A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalti mab Lais, o Alim.

1 Samuel 25