1 Samuel 25:31-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i'm harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o'm harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i'm harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.

32. A dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a'th anfonodd di y dydd hwn i'm cyfarfod i:

33. Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a'm lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'm llaw fy hun.

34. Canys yn wir, fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw, yr hwn a'm hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i'm cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un gwryw.

35. Yna y cymerodd Dafydd o'i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddywedodd wrthi hi, Dos i fyny mewn heddwch i'th dŷ: gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb.

36. Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenin: a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd efe: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore.

37. A'r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a'i galon ef a fu farw o'i fewn, ac efe a aeth fel carreg.

38. Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw.

39. A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo.

40. A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a'n hanfonodd ni atat ti, i'th gymryd di yn wraig iddo.

41. A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd.

42. Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o'i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.

43. A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef.

44. A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalti mab Lais, o Alim.

1 Samuel 25