22. Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o'r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw.
23. A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr,
24. Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd; a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn.
25. Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nabal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist.
26. Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i'r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a'r sawl a geisiant niwed i'm harglwydd, megis Nabal.
27. Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i'm harglwydd, rhodder hi i'r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd.
28. A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i'm harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.
29. Er cyfodi o ddyn i'th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda'r Arglwydd dy Dduw; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl.
30. A phan wnelo yr Arglwydd i'm harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y'th osodo di yn flaenor ar Israel;
31. Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i'm harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o'm harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i'm harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.
32. A dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a'th anfonodd di y dydd hwn i'm cyfarfod i:
33. Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a'm lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'm llaw fy hun.
34. Canys yn wir, fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw, yr hwn a'm hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i'm cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un gwryw.