1 Samuel 24:3-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a'i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof.

4. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel.

5. Ac wedi hyn calon Dafydd a'i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul.

6. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i'm meistr, eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe.

7. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o'r ogof, ac a aeth i ffordd.

8. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o'r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o'i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua'r ddaear, ac a ymgrymodd.

9. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti?

1 Samuel 24