15. Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o'th law di.
16. A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
17. Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.
18. A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni'm lleddaist.
19. Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn.
20. Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di.
21. Twng dithau wrthyf fi yn awr i'r Arglwydd, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad.
22. A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i'w dŷ: Dafydd hefyd a'i wŷr a aethant i fyny i'r amddiffynfa.