12. A Saul a ddywedodd, Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd.
13. A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i'm herbyn i, ti a mab Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw?
14. Ac Ahimelech a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon â Dafydd, ac yn ddaw i'r brenin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di?
15. Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori â Duw drosto ef? na ato Duw i mi. Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was, nac yn erbyn neb o dŷ fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, nac ychydig na llawer.
16. A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl dŷ dy dad.
17. A'r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o'i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd.
18. A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain.
19. Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr offeiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.
20. Ond un mab i Ahimelech mab Ahitub, a'i enw Abiathar, a ddihangodd, ac a ffodd ar ôl Dafydd.
21. Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd, ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd.
22. A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, Gwybûm y dydd hwnnw, pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai efe i Saul: myfi a fûm achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dad di.
23. Aros gyda mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyda mi y byddi di gadwedig.