10. Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â'r Arglwydd; ac a roddes fwyd iddo ef; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo.
11. Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a holl dŷ ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y brenin.
12. A Saul a ddywedodd, Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd.
13. A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i'm herbyn i, ti a mab Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw?