1 Samuel 22:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dafydd a aeth ymaith oddi yno, ac a ddihangodd i ogof Adulam: a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef hynny, hwy a aethant i waered ato ef yno.

2. Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oedd mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr.

3. A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a'm mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi.

4. Ac efe a'u dug hwynt gerbron brenin Moab: ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa.

5. A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd, Nac aros yn yr amddiffynfa; dos ymaith, a cherdda rhagot i wlad Jwda. Felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.

6. A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a'r gwŷr oedd gydag ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama, a'i waywffon yn ei law, a'i holl weision yn sefyll o'i amgylch;)

7. Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o'i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd;

8. Gan i chwi oll gydfwriadu i'm herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o'm mab i gynghrair â mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o'm plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod i'm mab annog fy ngwas i gynllwyn i'm herbyn, megis y dydd hwn?

9. Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub.

10. Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â'r Arglwydd; ac a roddes fwyd iddo ef; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo.

1 Samuel 22