1. Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi?
2. A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o'r peth am yr hwn y'th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a'r gweision a gyfarwyddais i i'r lle a'r lle.
3. Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu y peth sydd i'w gael.
4. A'r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: os y llanciau a ymgadwasant o'r lleiaf oddi wrth wragedd.
5. A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a'r bara sydd megis cyffredin, ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr.
6. Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr Arglwydd, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith.
7. Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr Arglwydd, a'i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o'r bugeiliaid oedd gan Saul.
8. A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na'm harfau chwaith i'm llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst.