1 Samuel 20:24-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o'r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd.

25. A'r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.

26. Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a'i fod yn aflan.

27. A bu drannoeth, yr ail ddydd o'r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddiw?

28. A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem:

29. Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i'n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a'm brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.

30. Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?

31. Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni'th sicrheir di na'th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe.

32. A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?

33. A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i'w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.

34. Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o'r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i'w dad ei waradwyddo ef.

35. A'r bore yr aeth Jonathan i'r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef.

36. Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A'r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef.

37. A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o'r tu hwnt i ti?

38. A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.

1 Samuel 20