1 Samuel 2:32-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.

33. A'r gŵr o'r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i'th lygaid ballu, ac i beri i'th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.

34. A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.

1 Samuel 2