1 Samuel 19:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a'r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel: ti a'i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos?

6. A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan; a Saul a dyngodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni leddir ef.

7. A Jonathan a alwodd ar Dafydd; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn. A Jonathan a ddug Dafydd at Saul: ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt.

8. A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef.

9. A'r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â'i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â'i law.

10. A cheisiodd Saul daro â'i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd y nos honno.

11. Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i'w wylied ef, ac i'w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y'th leddir.

12. Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddihangodd.

1 Samuel 19