1 Samuel 19:13-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A Michal a gymerodd ddelw, ac a'i gosododd yn y gwely; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a'i gorchuddiodd รข dillad.

14. A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf.

15. A Saul a anfonodd eilwaith genhadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd, Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.

16. A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi.

17. A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a'th laddaf di.

18. Felly Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd, ac a ddaeth at Samuel i Rama; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth.

19. A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama.

20. A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw, fel y proffwydasant hwythau hefyd.

21. A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd.

22. Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama.

23. Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama.

24. Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos. Am hynny y dywedent, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?

1 Samuel 19