1 Samuel 19:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.

2. Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia:

3. A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf â'm tad o'th blegid di; a'r hyn a welwyf, mi a'i mynegaf i ti.

4. A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i'th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.

5. Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a'r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel: ti a'i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos?

6. A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan; a Saul a dyngodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni leddir ef.

7. A Jonathan a alwodd ar Dafydd; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn. A Jonathan a ddug Dafydd at Saul: ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt.

8. A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef.

9. A'r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â'i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â'i law.

1 Samuel 19