2. A Saul a'i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad.
3. Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a'i carai megis ei enaid ei hun.
4. A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a'i rhoddes i Dafydd, a'i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a'i fwa, a'i wregys.
5. A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a'i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.
6. A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â'r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau.
7. A'r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn.
8. A digiodd Saul yn ddirfawr, a'r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?
9. A bu Saul â'i lygad ar Dafydd o'r dydd hwnnw allan.
10. Bu hefyd drannoeth, i'r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ: a Dafydd a ganodd â'i law, fel o'r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul.
11. A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaith o'i ŵydd ef.
12. A Saul oedd yn ofni Dafydd; oherwydd bod yr Arglwydd gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul.
13. Am hynny Saul a'i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a'i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl.
14. A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a'r Arglwydd oedd gydag ef.
15. A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a'i hofnodd ef.
16. Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o'u blaen hwynt.
17. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.)