1 Samuel 18:16-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o'u blaen hwynt.

17. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.)

18. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i'r brenin?

19. Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.

20. A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a'r peth fu fodlon ganddo.

21. A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o'r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.

22. A Saul a orchmynnodd i'w weision fel hyn; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a'i holl weision ef a'th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha â'r brenin.

23. A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael?

24. A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd.

25. A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid.

26. A'i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a'r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â'r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto.

1 Samuel 18