56. A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn.
57. A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a'i cymerodd ef ac a'i dug o flaen Saul, a phen y Philistiad yn ei law.
58. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Mab i bwy wyt ti, y gŵr ieuanc? A dywedodd Dafydd, Mab i'th was Jesse y Bethlehemiad.