41. A'r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesáu at Dafydd; a'r gŵr oedd yn dwyn y darian o'i flaen ef.
42. A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a'i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg.
43. A'r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A'r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef.
44. Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.
45. Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti.
46. Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a'th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel.
47. A'r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel, ac efe a'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.
48. A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua'r fyddin i gyfarfod â'r Philistiad.