38. A Saul a wisgodd Dafydd â'i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef, ac a'i gwisgodd ef mewn llurig.
39. A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a'u diosgodd oddi amdano.
40. Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o'r afon, ac a'u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a'i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad.
41. A'r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesáu at Dafydd; a'r gŵr oedd yn dwyn y darian o'i flaen ef.
42. A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a'i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg.
43. A'r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A'r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef.
44. Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.
45. Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti.
46. Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a'th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel.
47. A'r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel, ac efe a'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.
48. A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua'r fyddin i gyfarfod â'r Philistiad.
49. A Dafydd a estynnodd ei law i'r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a'r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb.
50. Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a'i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd.
51. Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a'i tynnodd o'r wain, ac a'i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o'u cawr hwynt hwy a ffoesant.