37. Dywedodd Dafydd hefyd, Yr Arglwydd, yr hwn a'm hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a'r Arglwydd fyddo gyda thi.
38. A Saul a wisgodd Dafydd â'i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef, ac a'i gwisgodd ef mewn llurig.
39. A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a'u diosgodd oddi amdano.
40. Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o'r afon, ac a'u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a'i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad.
41. A'r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesáu at Dafydd; a'r gŵr oedd yn dwyn y darian o'i flaen ef.
42. A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a'i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg.
43. A'r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A'r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef.