1 Samuel 17:20-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i'r gwersyll, a'r llu yn myned allan i'r gad, ac yn bloeddio i'r frwydr.

21. Canys Israel a'r Philistiaid a ymfyddinasant, fyddin yn erbyn byddin.

22. A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i'r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i'w frodyr.

23. A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd.

24. A holl wŷr Israel, pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr.

25. A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny: a'r gŵr a'i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel.

26. A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i'r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw?

27. A'r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i'r gŵr a'i lladdo ef.

1 Samuel 17