1 Samuel 17:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem.

16. A'r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod.

17. A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i'th frodyr effa o'r cras ŷd hwn, a'r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i'r gwersyll at dy frodyr.

18. Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â'th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt.

1 Samuel 17