1 Samuel 17:14-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A Dafydd oedd ieuangaf: a'r tri hynaf a aeth ar ôl Saul.

15. Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem.

16. A'r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod.

17. A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i'th frodyr effa o'r cras ŷd hwn, a'r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i'r gwersyll at dy frodyr.

18. Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â'th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt.

19. Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, oeddynt yn nyffryn Ela, yn ymladd â'r Philistiaid.

20. A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i'r gwersyll, a'r llu yn myned allan i'r gad, ac yn bloeddio i'r frwydr.

21. Canys Israel a'r Philistiaid a ymfyddinasant, fyddin yn erbyn byddin.

22. A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i'r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i'w frodyr.

23. A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd.

24. A holl wŷr Israel, pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr.

25. A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny: a'r gŵr a'i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel.

26. A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i'r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw?

1 Samuel 17