1. Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim.
2. Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.
3. A'r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o'r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o'r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.
4. A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a'i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant.
5. A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres.
6. A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau.
7. A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o'i flaen ef.
8. Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi.
9. Os gall efe ymladd â mi, a'm lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a'i gorchfygaf ef, ac a'i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni.