1 Samuel 16:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda'r praidd.

20. A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a'u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul.

21. A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a'i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.

1 Samuel 16