6. Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o'r Aifft. A'r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid.
7. A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr hon sydd ar gyfer yr Aifft.
8. Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf.
9. Ond Saul a'r bobl a arbedasant Agag, a'r gorau o'r defaid, a'r ychen, a'r brasaf o'r ŵyn, a'r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.
10. Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel, gan ddywedyd,
11. Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos.
12. A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal.
13. A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr Arglwydd: mi a gyflewnais air yr Arglwydd.
14. A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed?
15. A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a'r ychen, i aberthu i'r Arglwydd dy Dduw; a'r rhan arall a ddifrodasom ni.
16. Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara.
17. A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel?