1 Samuel 15:20-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd, ac a rodiais yn y ffordd y'm hanfonodd yr Arglwydd iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid.

21. Ond y bobl a gymerth o'r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i'r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal.

22. A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr Arglwydd ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr Arglwydd? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod.

23. Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr Arglwydd, yntau a'th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin.

24. A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr Arglwydd, a'th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt.

25. Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd.

26. A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr Arglwydd, a'r Arglwydd a'th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel.

27. A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd.

28. A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a'i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi.

29. A hefyd, Cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: canys nid dyn yw efe, i edifarhau.

30. Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw.

31. Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr Arglwydd.

32. Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith.

33. A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal.

34. Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i'w dŷ yn Gibea Saul.

1 Samuel 15