1 Samuel 15:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Yr Arglwydd a'm hanfonodd i i'th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Arglwydd.

2. Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i'w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny o'r Aifft.

3. Dos yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn.

4. A Saul a gynullodd y bobl, ac a'u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda.

5. A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn.

6. Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o'r Aifft. A'r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid.

7. A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr hon sydd ar gyfer yr Aifft.

8. Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf.

9. Ond Saul a'r bobl a arbedasant Agag, a'r gorau o'r defaid, a'r ychen, a'r brasaf o'r ŵyn, a'r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.

10. Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel, gan ddywedyd,

11. Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos.

1 Samuel 15