1 Samuel 14:39-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Canys, megis mai byw yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o'r holl bobl ef.

40. Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg.

41. Am hynny y dywedodd Saul wrth Arglwydd Dduw Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: ond y bobl a ddihangodd.

42. Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan.

43. Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fĂȘl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw?

44. Dywedodd Saul hefyd, Felly gwneled Duw i mi, ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan.

1 Samuel 14